Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2025

 

 

Pwynt Craffu Technegol 1:                     Ystyr y “ceisydd” yn y Rheoliadau hyn yw’r person sy’n gwneud y cais am adolygiad o dan adrannau 45 a 78 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, felly nid oes angen diffinio’r term y tu hwnt i’w ystyr arferol. Nid yw’r Rheoliadau hyn ond yn ymdrin â’r weithdrefn sydd i’w dilyn wrth ddelio ag adolygiad a’r canlyniadau posibl, ac nid ydynt yn ceisio darparu ar gyfer pwy gaiff wneud cais am adolygiad o’r fath. Darperir ar gyfer hynny yn adrannau 45 a 78 o’r Ddeddf, y cyfeirir atynt yn rheoliad 3.

 

Pwynt Craffu Technegol 2:                     Mae’r Rheoliadau yn dilyn y geiriad a ddefnyddiwyd yn y darpariaethau perthnasol yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022. Mae adran 79(1) yn cyfeirio at “penderfyniadau” a wneir o dan adran 45 ac adran 78. Mae adran 45 yn ymwneud â phenderfyniadau cofrestru, ac yn cyfeirio atynt. Mae adran 78 yn ymwneud â hysbysiad neu gyfarwyddyd, ac mae’r adran honno yn cyfeirio at hysbysiad neu gyfarwyddyd yn unig. Yn rheoliad 5(a), rydym wedi defnyddio “y penderfyniad, yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd” i adlewyrchu hynny (ac rydym wedi defnyddio’r un geiriad neu eiriad tebyg yn rheoliadau 3(b), 4(a) a 9(a)).

 

Mae rheoliad 5(b) yn defnyddio “ei benderfyniad”, sy’n cwmpasu penderfyniadau’r Comisiwn o dan adran 45 a phenderfyniadau mewn cysylltiad â hysbysiadau neu gyfarwyddydau o dan adran 78. Y tri ‘math’ hyn o benderfyniad yw’r hyn y gall yr adolygydd ei adolygu o dan adran 79. 

 

Rydym yn cydnabod y byddai wedi bod yn gliriach i’r darllenydd pe bai rheoliad 5(b) wedi cyfeirio at “y penderfyniad, yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd”. Fodd bynnag, nid ydym o’r farn, wrth ddarllen y ddarpariaeth yng nghyd-destun y Rheoliadau, fod risg wirioneddol o ddehongliad anghywir, yn enwedig o ystyried bod rhaid darllen rheoliad 5 ochr yn ochr â rheoliad 9. Mae paragraff (a) yn glir bod argymhelliad gan yr adolygydd (o dan reoliad 5) yn gymwys i benderfyniadau cofrestru a phenderfyniadau ar hysbysiadau a chyfarwyddydau, gan fod y ddyletswydd i ailystyried (ar ôl cael argymhelliad) yn gymwys i benderfyniad, hysbysiad neu gyfarwyddyd.

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 1:               Gallwn gadarnhau mai’r unig bŵer galluogi perthnasol yw adran 79(3) a (4) o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022. Mae’r cyfeiriad at adran 143(2)(a) o’r Ddeddf honno yn y Memorandwm Esboniadol yn anghywir ac mae fersiwn ddiwygiedig o’r Memorandwm Esboniadol wedi ei gosod i gywiro hyn.